![]() |
Rhywbeth Creadigol?Author: Caerdydd Creadigol Language: cy Contact email: Get it Feed URL: Get it iTunes ID: Get it |
Listen Now...
Rhywbeth Creadigol? 3:3 Iechyd Meddwl yn y Sector Creadigol – Beth Ddylen ni Ystyried?
Episode 3
Thursday, 21 October, 2021
Yn y bennod hon, ry’n ni’n trafod iechyd meddwl yn y sector creadigol. Mae Sian Gale yn Rheolwr Sgiliau a Datblygu yn CULT Cymru - sef undebau creadigol yn dysgu gyda’i gilydd - ac yn rhedeg cyrsiau Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl. Mae Heledd Owen yn ddarlunydd sydd wedi dechrau busnes ei hun ers y cyfnod clo. Mae’n rhannu positifrwydd ac yn siarad yn onest am iechyd meddwl trwy ei chyfrifon cymdeithasol. Tra bod 1 mewn 4 o bobol yn y Deyrnas Unedig yn dioddef o salwch iechyd meddwl bob blwyddyn, mae gweithwyr yn y sector creadigol tair gwaith mwy debygol o ddioddef o broblemau iechyd meddwl. Recordiwyd y bennod hon ym mis Awst 2021. Meddwl Mae’r wefan hon yn lle i gael cefnogaeth, gwybodaeth a phrofiadau iechyd meddwl – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mind Cymru Mind Cymru, yr elusen iechyd meddwl. CULT Cymru Heledd Owen